Achub ein Canolfannau Ymwelwyr

Diweddarwyd y dudalen yma ar 11.07.25

Ddechrau’r flwyddyn 2024, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) y bwriad i orffen rhedeg y caffi a siop yn eu canolfannau ymwelwyr, gan gynnwys Bwlch Nant-yr-Arian ac yn Ynyslas.

Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddodd CNC broses farchnata i ddod o hyd i weithredwyr newydd ar gyfer Bwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin, gan obeithio dyfarnu contractau erbyn mis Ebrill 2026.

Mae’r wybodaeth wedi’i threfnu o’r diweddaraf i’r hynaf. Sgroliwch i lawr i weld digwyddiadau blaenorol.


Sicrhau Dyfodol Canolfannau Ymwelwyr Ceredigion

Yn hwyr yn 2024, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ei fwriad i dynnu’n ôl gwasanaethau manwerthu ac arlwyo o dair o’i chanolfannau ymwelwyr mwyaf poblogaidd: Bwlch Nant yr Arian, Ynyslas, a Choed y Brenin. Fe wnaeth y penderfyniad godi pryder eang ledled Ceredigion a Gwynedd, gyda chymunedau lleol, staff, ac aelodau etholedig yn galw ar CNC i ailystyried.

Mae canolfannau Nant yr Arian ac Ynyslas nid yn unig yn boblogaidd gyda thrigolion a thwristiaid – maent hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn economi wledig Ceredigion ac yn hyrwyddo addysg amgylcheddol. Mewn ymateb, bu Elin Jones AS yn gweithio’n agos gyda chynghorwyr lleol a grwpiau cymunedol i bwyso ar CNC i gadw’r canolfannau ar agor nes y gellir penodi partner newydd.

Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, aeth CNC yn ei flaen â’r penderfyniad i gau’r gwasanaethau arlwyo a manwerthu o 31 Mawrth 2025. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw ddarpariaeth fwyd na manwerthu ar y safleoedd hyn am o leiaf 12 mis – gan adael bwlch sylweddol yn y profiad i ymwelwyr tra bo contractwr newydd yn cael ei benodi.

Meddai Elin yn ei hymateb: “Mae gwir frys bellach i sicrhau dyfodol hirdymor y ddau ganolfan. Ni all darpariaeth dros dro na symudol barhau am fwy nag un haf. Mae partneriaid parod ar gael ar gyfer y canolfannau hyn ac mae’n rhaid i CNC weithredu’n brydlon i sicrhau’r diddordebau lleol hyn. Nid yw rhoi’r cyfleusterau pwysig hyn ar ‘hold’ am gyfnod hwy yn fuddiol i neb – yn enwedig y gymuned leol.”


9 Gorffennaf 2025 – CNC yn lansio ymarfer marchnata

Mae CNC bellach wedi cadarnhau y bydd yn lansio ymarfer marchnata ffurfiol ym Mis Tachwedd 2025 i ddod o hyd i weithredwyr newydd ar gyfer Bwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin. Nod y broses yw dyfarnu contractau erbyn Ebrill 2026.

Mae’r sefydliad yn chwilio am grwpiau cymunedol neu fusnesau i gymryd cyfrifoldeb dros y gwasanaethau arlwyo a manwerthu. Bydd y broses yn cael ei rheoli drwy’r porth Sell2Wales.


Mai 2025 – Gosod terfyn amser ar CNC

Yn dilyn pwysau gan y cyhoedd ac aelodau etholedig, rhoddodd Llywodraeth Cymru derfyn amser o dri mis i CNC ddatblygu cynllun hyfyw ar gyfer dyfodol y tri safle. Pwysodd Elin ar CNC i weithredu’n gyflym i sicrhau dyfodol y canolfannau.


31 Mawrth 2025 – Gwasanaethau’n cau

Daeth y gwasanaethau arlwyo a manwerthu i ben yn swyddogol ym mhob un o’r tri chanolfan. Fodd bynnag, cadarnhaodd CNC fod llwybrau, toiledau, meysydd parcio a meysydd chwarae yn parhau ar agor i’r cyhoedd.


Tachwedd 2024 – Ymgyrch i sicrhau dyfodol y canolfannau

Galwodd Elin Jones AS am ohirio’r cau nes y gellid dod o hyd i weithredwyr newydd. Mynychodd brotestiadau, cyfarfu â swyddogion CNC, a chefnogodd grwpiau lleol oedd â diddordeb mewn cymryd cyfrifoldeb dros y gwasanaethau.

“Mae penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i gau’r gweithrediadau arlwyo a manwerthu ym Mwlch Nant yr Arian ac Ynyslas yn siomedig iawn, ac yn mynd i effeithio ar drigolion lleol, cymunedau, ac economi ehangach y sir. Rydym yn pryderu am y staff sydd wedi’u heffeithio gan y penderfyniad hwn – pobl sydd wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd i wneud y canolfannau hyn yn rhai annwyl gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae’n bwysig iawn i mi nad oes toriad yn y gwasanaethau a gynigir ym Mwlch Nant-yr-Arian ac Ynyslas er budd pob ymwelydd, o bell ac agos.”


Tachwedd 2024 – CNC yn cadarnhau’r cau 

Cyhoeddodd CNC y byddai’r gwasanaethau arlwyo a manwerthu yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025. Mae 120 o aelodau staff wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan y newidiadau i strwythur y sefydliad, sydd bellach wedi’u cymeradwyo gan fwrdd CNC, wrth i’r sefydliad geisio gwneud arbedion sylweddol.

Dywedodd CNC: “Byddwn yn symleiddio ein gweithgareddau ac yn canolbwyntio ein hadnoddau ar ddarparu’r gwasanaethau hanfodol y gallwn ni yn unig eu darparu.” Bydd hyn yn cynnwys gwella ansawdd dŵr a monitro amgylcheddol. Galwodd cynrychiolwyr Plaid Cymru – Elin Jones AS, Ben Lake AS, a Chynghorydd Rhodri Davies – ar CNC i weithredu’n brydlon i sicrhau dyfodol y canolfannau ymwelwyr.

📨 Derbyn diweddariadau am ganolfannau ymwelwyr gan Elin