Mae Elin Jones AS yn galw am fwy o weithredu brys i wella darpariaeth ffibr lawn yng Ngheredigion. Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan Ofcom yn nodi taw dim ond 51% o gartrefi Ceredigion sydd â mynediad at fand eang ffibr, a taw Ceredigion yw’r sir sydd yn derbyn y ddarpariaeth waethaf yng Nghymru.
Mae gan dros 78% o gartrefi yng Nghymru fand eang ffibr llawn ar gael iddynt bellach, fodd bynnag, dim ond ychydig dros hanner o Geredigion sydd â’r gwasanaeth. Mae bwlch sylweddol o hyd yn y ddarpariaeth rhwng ardaloedd gwledig a threfol.
Dywedodd Elin Jones AS: “Mae gan siroedd fel Sir y Fflint a Phen-y-bont ar Ogwr ddarpariaeth o dros 90%. Unwaith eto, nid yw ardaloedd gwledig yn cael eu cefnogi gan Lywodraethau’r DU na Chymru. Gyda bwlch mor fawr rhwng lefelau’r ddarpariaeth, dylid bod wedi rhoi mwy o flaenoriaeth i wella band eang yn yr ardaloedd a wasanaethir waethaf yn gyntaf.
Rwyf wedi ysgrifennu at Weinidog y Llywodraeth yn gofyn am eglurder ynghylch yr hyn a wneir i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn. Mae angen cysylltiad band eang da ar bob un ohonom i weithio a byw, waeth bynnag ble rydym yn byw, ac mae'n siomedig bod bron i hanner aelwydydd Ceredigion dal i fod heb ffibr llawn yn 2025.”