Datblygu cynllun bysus cymunedol

Ym mis Hydref 2023, penderfynodd Llywodraeth Cymru nad oeddynt am ariannu gwasanaeth trafnidiaeth bws cyhoeddus y Bwcabws rhagor, a daethant a'r gwasanaeth i ben yn ddi-rybudd. O ganlyniad roedd nifer o drigolion y sir oedd yn llwyr ddibynnol ar y Bwcabws heb ffordd o gyrraedd apwyntiadau meddygol, rhai heb modd i siopa, rhai yn methu teithio i'r gwaith, a nifer wedi eu ynysu a heb modd i gymdeithasu o gwbl.

Gwasanaeth Bws Cymunedol Newydd yn Ne Ceredigion

Yn wreiddiol, crëwyd y Bwcabus fel gwasanaeth ‘yn ôl y galw’ i gysylltu cymunedau yn ne Ceredigion nad oedd ganddynt wasanaeth bws rheolaidd. Roedd y nod yn syml: galluogi pobl i gyrraedd gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ond oherwydd ei boblogrwydd a'r diffyg gwasanaethau bysus eraill, datblygodd y Bwcabus yn raddol i fod yn wasanaeth mwy rheolaidd.

Yn anffodus, pan ddaeth y gwasanaeth i ben, ni chynigiwyd unrhyw gynllun dilynol gan Lywodraeth Cymru na Thrafnidiaeth Cymru. O ganlyniad, gadawyd llawer o drigolion cefn gwlad heb unrhyw gyswllt â’r rhwydwaith cludiant cyhoeddus – ac mi wnaeth y sefyllfa yma codi pryderon sylweddol yn lleol.

Yn sgil cyfarfod cyhoeddus yn Llandysul gyda defnyddwyr a chefnogwyr y Bwcabus, daeth yn amlwg i Elin fod angen datrysiad mwy cynaliadwy i’r gwasanaeth. O ganlyniad, dechreuodd drafodaethau gyda Dolen Teifi – cwmni trafnidiaeth gymunedol lleol oedd eisoes yn darparu gwasanaethau tebyg yn yr ardal.

Dan i sang - Cadeiriodd Elin gyfarfod cyhoeddus hybrid poblogaidd yn Ysgol Bro Teifi i drafod effaith colli gwasanaeth y Bwcabus. Roedd Cefin Campbell AS hefyd yn bresennol, gyda llawer o bobl eraill yn ymuno ar-lein i rannu eu pryderon a’u syniadau.

Datrysiad Newydd

O’r trafodaethau hynny, daeth cynnig cadarn i’r fei, a bu modd i Elin gyflwyno’r syniad i Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Sicrhawyd cyllid digonol i lansio cynllun peilot ar gyfer gwasanaeth bws cymunedol newydd.

Y Prosiect Peilot

Mae Dolen Teifi bellach wedi sicrhau dau fws mini 17-sedd ar gyfer y cynllun. Bydd un yn gwasanaethu ardal Llambed, a’r llall yn anelu at wasanaethu wardiau Llandysul, Llandyfriog, Beulah a Llangoedmor. Yn ogystal, bydd modd i grwpiau cymunedol logi’r bysiau gyda’r hwyr ac ar benwythnosau.

Yn ystod mis Hydref, cynhaliwyd Elin cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i rannu gwybodaeth am y cynllun, adnabod grwpiau lleol a allai arwain ar y ddarpariaeth, a chynllunio teithiau fyddai’n fuddiol i’r gymuned.

Cam Ymlaen

Yn haf 2025, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd y prosiect peilot yn derbyn cyllid ar gyfer ail flwyddyn. Mae nifer o deithiau bellach yn cael eu cynnal yn rheolaidd.

I gael yr amserlen ddiweddaraf neu fwy o wybodaeth am y gwasanaeth, cysylltwch â Dolen Teifi yn uniongyrchol:

🔗 Dolen Teifi Community Transport - Dolen Teifi - Trafnidiaeth i Bawb
📞 01559 362403