Ar Ddiwrnod Atal Strôc, mae Elin Jones AS a Ben Lake AS yn galw ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda i wrthod yr opsiwn trin a throsglwyddo a gynigir ar gyfer gwasanaethau strôc Bronglais.
Mae Elin Jones AS a Ben Lake AS wedi ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd cyn y cyfarfod i benderfynu ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol, i atgoffa aelodau’r bwrdd o bryderon allweddol a godwyd yn yr ymgynghoriad. Maent yn bryderus iawn ynghylch sut byddai model trin a throsglwyddo yn effeithio ar ddiogelwch cleifion, ac yn achosi amseroedd teithio helaeth i deuluoedd cleifion. Mae’r ffaith nad oes gofal brys yn Llanelli hefyd yn peri risg sylweddol i gleifion.
Fel y dywedodd Elin Jones MS:
“Ar y pwynt hwn mae angen i’r Bwrdd Iechyd ystyried o ddifrif yr angen i ddileu’r model Trin a Throsglwyddo arfaethedig o ofal strôc ar gyfer Bronglais. Mae sawl rhybudd sylweddol wedi eu nodi yn y miloedd o ymatebion fu i’r ymgynghoriad. Mae angen i’r Bwrdd Iechyd roi sylw arbennig i bryder y Gymdeithas Strôc y byddai’r cynnig yn gweld uned adsefydlu strôc mewn ysbyty yn Llanelli sydd heb ofal brys ar y safle. Mae hefyd yn amlwg fod y Bwrdd Iechyd wedi hepgor trafodaethau ynglŷn â’r ambiwlans a staff ychwanegol arbenigol byddai angen i drosglwyddo dioddefwyr strôc i Lanelli. Byddai hyn yn creu gofyn sylweddol am gerbydau a staff ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd. Mae angen i’r Bwrdd Iechyd roi’r gorau i’w cynigion presennol ar gyfer strôc a dechrau canolbwyntio ar ddatblygu Bronglais fel canolbwynt strôc gwledig ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru.”
Fel y dywedodd Ben Lake AS:
“Mae’r risgiau i ddiogelwch cleifion sy’n dod o drosglwyddo, a’r diffyg trafodaeth am adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael i wneud hyn yn ddiogel yn ddigon o reswm i’r Bwrdd Iechyd wrthod y model gofal hwn. Hefyd, o ystyried y diffyg opsiynau teithio sydd gennym yng nghefn gwlad gorllewin Cymru, byddai cleifion â theuluoedd a ffrindiau na allant yrru yn wynebu cael eu gadael heb y gefnogaeth werthfawr i fwydo a chynorthwyo adsefydlu, sy’n allweddol i adferiad cleifion strôc.”