Mae Elin Jones AS a Mabon ap Gwynfor, Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru wedi uno i ddatgan ar y cyd byddant yn penodi Bronglais yn Ysbyty Rhagoriaeth Wledig. Mae'r ysbyty wedi wynebu ton ar ôl ton o geisiadau i israddio gwasanaethau’r ysbyty dros y blynyddoedd, a'r diweddaraf yw'r opsiwn i israddio'r Uned Strôc.
Dywed Elin Jones, ymgyrchydd hirdymor dros ysbyty Bronglais ei bod yn bryd atgyfodi uchelgais Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru Marcus Longley, a gomisiynwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2014. Roedd yr Astudiaeth honno a’i hargymhellion yn dilyn bygythiadau aflwyddiannus i israddio Bronglais a chanoli ei gwasanaethau llawdriniaeth frys ac obstetrig.
Dywedodd Elin Jones: “Gwyddom mai ysbyty bach yw Bronglais. Nid yw’r niferoedd drwy’r drysau mor niferus ag mewn ysbytai dinasoedd mwy. Nid yw modelau darparu gwasanaeth sydd wedi’u cynllunio ar gyfer canolfannau gyda phoblogaeth mwy bob amser yn berthnasol i ysbyty llai, ac mae angen eu dylunio’n unol â hynny. Er bod ysbyty’n fach, nid yw’n golygu na all fod yn fodern ac arloesol. Mewn gwirionedd mae angen iddo fod yn fwy felly, yn enwedig o ran eu defnydd o telefeddygaeth. Mi roedd momentwm i ddylunio gwasanaethau gwledig pwrpasol ar gyfer canolbarth Cymru o ganlyniad i adolygiad Marcus Longley, a gwnaed cynnydd am gyfnod. Fodd bynnag, mae'n ymddangos iddo gael ei golli dros gyfnod cofid. Mae’n bryd mynd ailfeddwl y cynllun, ac i’r GIG yng Nghymru, gan weithio ar draws Byrddau Iechyd Lleol unigol yn y canolbarth, ddylunio Bronglais yn Ysbyty Rhagoriaeth Wledig.”
Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid dros Blaid Cymru, ac ymgeisydd Gwynedd Maldwyn:
“Mae Bronglais yn ysbyty sy’n gwasanaethu ardal ddaearyddol fawr iawn sy’n cwmpasu llawer o Wynedd, Powys a Cheredigion. Gyda’r cyfeiriad gwleidyddol cywir gan Lywodraeth nesaf Cymru, mae gennym gyfle i gynllunio gwasanaethau ym Mronglais mewn ffordd sy’n diwallu anghenion Cymru wledig. Mae Gorllewin Awstralia a Chanada wedi datblygu modelau Rhagoriaeth Iechyd Gwledig, a thrwy ddysgu arfer gorau o’r mannau hyn ac o fannau eraill, gan weithio ar draws ffiniau gyda Byrddau Iechyd eraill a sefydliadau allweddol, fel ein Colegau Brenhinol, gallwn ddatblygu Bronglais i fod yn ganolfan rhagoriaeth iechyd wledig, yn arbenigo mewn telefeddygaeth â chynllun gweithlu sy’n cwrdd a gofynion canolbarth wledig Cymru.”