Croesawodd Elin Jones AS Stephen Mansel Davies a Scott, perchnogion cwmni Mansel Davies i'r Senedd i hyrwyddo cludo nwyddau ar y ffordd fel rhan o Wythnos Genedlaethol y Lorïau.
Mae dathliad blynyddol y diwydiant cludo nwyddau a'i bobl, timau a sefydliadau yn arddangos rôl hanfodol y sector wrth sicrhau ein bod ni i gyd yn cael y nwyddau sydd eu hangen arnom, sydd hefyd yn cefnogi ein heconomi.
Mae Mansel Davies yn un o'r prif gwmnïau cludo nwyddau sy'n gwasanaethu Ceredigion, Sir Benfro a Chaerfyrddin, ac mae'n cyflogi dros 300 o bobl ledled gorllewin Cymru. Mae ei brif ganolfan yn Sir Benfro, ac mae ganddyn nhw hefyd ganolfan lloeren Volvo yn Temple Bar, Ceredigion.
Dywedodd Elin Jones AS: “Roedd yn bleser gen i groesawu Stephen a Scott i’r Senedd. Mae cludiant lorïau mor hanfodol i’r economi a’n cymdeithas ehangach – gan gludo popeth o gynnyrch amaethyddol, bwyd, olew, cynhyrchion y GIG, cynhyrchion ynni adnewyddadwy a mwy. Mae angen i ni sicrhau bod gweithlu iau yn cael ei ddenu i’r sector, er mwyn diogelu’r diwydiant a chyflogwyr lleol fel Mansel Davies ar gyfer y dyfodol.”