Elin Jones AS yn lansio arddangosfa gan ffoaduriaid wedi'u dadleoli o Geredigion

Elin Jones AS yn lansio arddangosfa gan ffoaduriaid wedi'u dadleoli o Geredigion

Lansiodd Elin Jones AS arddangosfa ‘Bywydau Ansefydlog: Rhyfel a Dadleoliad yng Nghymru’ ar y diwrnod daeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben, i goffáu’r holl bobl hynny a gafodd eu dadleoli i Gymru oherwydd rhyfeloedd.

Mae'r arddangosfa'n canolbwyntio ar ddadleoli yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif oherwydd gwrthdaro a rhyfel, ac mae'n cynnwys gweithiau gan ffoaduriaid sydd bellach yn byw yng Ngheredigion. Mae'r arddangosfa wedi'i lleoli yn Oriel y Senedd, a bydd yno tan ddydd Iau, yr 22ain o Ionawr 2026.

Dywedodd Elin Jones AS:
“Roeddwn i’n falch o groesawu’r arddangosfa a’i chyfranwyr i’r Senedd, yn enwedig Victoria, Irina a Mohamad a gafodd eu dadleoli o’r Wcráin. Mae eu gwaith celf yn adlewyrchu eu mamwlad, gan gynnwys y rhesymau pam y bu’n rhaid iddynt ei gadael ar ôl, ac mae hefyd yn portreadu elfennau o’r bywyd newydd y maent wedi’i adeiladu iddynt eu hunain yng Ngheredigion.”