Elin Jones AS yn cefnogi'r alwad i wella sgrinio canser y fron

Elin Jones AS yn cefnogi'r alwad i wella sgrinio canser y fron

Ymunodd Elin Jones AS gydag elusen ymchwil a chefnogaeth flaenllaw Breast Cancer Now mewn digwyddiad gwisgo pinc yn y Senedd i annog Llywodraeth Cymru i hybu nifer y bobl sy'n cael eu sgrinio ac achub mwy o fywydau rhag canser y fron.

Mae deiseb ‘Dim Amser i’w Wastraffu – Cymru’ Canser y Fron Nawr, a lansiwyd ym mis Awst yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod y safon sgrinio bronnau gofynnol o 70% yn cael ei chyrraedd yn gyson, i yrru cynnydd tuag at gyflawni’r targed o 80%, ac i leihau anghydraddoldebau yn y nifer sy’n cael eu sgrinio ar draws gwahanol gymunedau. Mae hyn yn dilyn ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n dangos bod y nifer sy’n cael eu sgrinio wedi gostwng islaw’r safon ofynnol o 70% yn 2022/23 (69.5%).

Yn hollbwysig, mae Breast Cancer Now yn amcangyfrif y gallai cyrraedd 80% fod wedi arwain at fwy na 15,800 o fenywod ychwanegol yn cael eu sgrinio a 154 o ganserau'r fron ychwanegol yn cael eu canfod. Mae'r adroddiad diweddar 'Cost of Breast Cancer: 2025 Update' gan Demos a Breast Cancer Now hefyd yn amcangyfrif y gallai cyrraedd y targed hwn gynhyrchu tua £8-£9 miliwn mewn arbedion economaidd a £78 miliwn mewn enillion lles yn 2025.

Dywedodd Elin Jones AS: “Roeddwn yn falch i gefnogi digwyddiad gwisgo pinc Breast Cancer Now yn y Senedd a chlywed am sut y gallwn ni gefnogi eu gwaith hanfodol yng Nghymru. Mae pob menyw yn haeddu’r cyfle gorau posibl i gael diagnosis cynnar o ganser y fron. Rwy’n annog trigolion Ceredigion i ymuno â mi i gefnogi deiseb Breast Cancer Now i wella nifer y bobl sy’n cael eu sgrinio am y fron. Gyda’n gilydd gallwn anfon neges glir at Lywodraeth Cymru nad oes amser i’w wastraffu.”

 

I lofnodi deiseb Breast Cancer Now, ewch i: https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246708