Mae Elin Jones AS wedi cadarnhau ei bod wedi sicrhau cyfarfod gyda'r Gweinidog Iechyd ochr yn ochr â chynrychiolwyr o Protect Bronglais Services.
Bydd y cyfarfod yn digwydd brynhawn fory ar ôl dadl yn y Senedd i drafod y ddeiseb i arbed uned strôc ysbyty Bronglais, sydd wedi’i llofnodi gan dros 17,000 o bobl. Sicrhaodd y Grŵp Arbed Gwasanaethau Bronglais y ddadl, ar ôl casglu dros 10,000 o lofnodion o fewn ychydig wythnosau.
Fel y dywedodd Elin Jones AS:
“Rwy’n falch bod y Gweinidog Iechyd, Jeremy Miles, wedi cytuno i’m cais i gyfarfod â chynrychiolwyr Grŵp Arbed Gwasanaethau Bronglais i drafod dyfodol gwasanaethau strôc yng nghanolbarth Cymru. Mae dydd Mercher yn gyfle gwirioneddol i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru ar bwysigrwydd cadw gwasanaeth adsefydlu strôc llawn yn ysbyty Bronglais. Mae symud cleifion strôc i Lanelli a gorfodi eu teuluoedd i ymgymryd ag ymweliadau dyddiol anghredadwy o hir yn gwbl annerbyniol i’m hetholwyr. Mae’n bwysig bod y Gweinidog yn clywed pa mor annymunol yw’r cynigion hyn.”
Ddoe, croesawodd Elin Jones MS hefyd wrthwynebiad y Gymdeithas Strôc i gynigion Adolygiad Gwasanaethau Clinigol Hywel Dda i gyflwyno model trin a throsglwyddo ar gyfer cleifion strôc ym Mronglais, gan israddio'r ystod lawn bresennol o wasanaethau strôc yn Aberystwyth yn effeithiol.
Mewn cyfathrebiad at Aelodau’r Senedd, cadarnhaodd y Gymdeithas Strôc: “Nid yw'r Gymdeithas Strôc yn cefnogi newidiadau arfaethedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i symud gwasanaethau adsefydlu strôc i fodel trin a throsglwyddo. Credwn fod y cynigion cyhoeddus presennol mewn perygl o danseilio triniaeth dan arweiniad arbenigwyr, rhannu gwasanaethau, a chynyddu anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru.”
Esboniodd Elin Jones AS:
“Rwyf mor falch bod y Gymdeithas Strôc wedi manteisio ar y cyfle cyn dadl y ddeiseb strôc yn y Senedd ddydd Mercher i fynegi ei gwrthwynebiad i’r model a gynigiwyd gan y Bwrdd Iechyd. Mae llawer o’r rhesymau a roddwyd gan y Gymdeithas Strôc yn adlewyrchu pryderon y miloedd o ddeisebwyr. Yn benodol, mae’r diffyg manylion a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd ar ei gynnig a sut mae’n cael ei arwain yn glinigol, wedi peri pryder i'r Gymdeithas Strôc. Roeddwn hefyd yn falch o weld bod y Gymdeithas yn datgan nad yw’r darlun cenedlaethol wedi’i ystyried gan y Bwrdd Iechyd a bod angen cynllunio gwasanaethau ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, yn hytrach nag yn dyblygu gwasanaethau Bae Abertawe. Byddai trosolwg cenedlaethol o wasanaethau strôc yn tynnu sylw at yr angen i ganolbarth Cymru gael ei wasanaethu gan uned strôc lawn. Yn hollbwysig, mae'r Gymdeithas Strôc yn bryderus ynghylch lleoli uned strôc mewn lleoliad heb adran achosion brys ar y safle, fel y byddai’n digwydd yn Llanelli.
Dylai’r Bwrdd Iechyd nawr dynnu ei gynlluniau ar strôc allan o'r Adolygiad o Wasanaethau Clinigol a chynllunio dyfodol ar gyfer gwasanaethau strôc gyda holl fyrddau iechyd canolbarth Cymru, ac hyn ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Bae Abertawe. Byddai hyn yn galluogi gwasanaeth strôc arbenigol ac adsefydlu a gynlluniwyd yn rhanbarthol ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru i gyd.”
*Gellir gweld y ddadl yn fyw arlein brynhawn yfory.