DYFODOL EIN TIR – Trafodaeth gyhoeddus

Maw
03
Dydd Mercher, Mawrth 03, 2021 am 07:30 PM
DYFODOL EIN TIR – Trafodaeth gyhoeddus

Lleoliad

Zoom

Cyswllt digwyddiad

Aled Morgan Hughes

DYFODOL EIN TIR – Trafodaeth gyhoeddus

03/03/21 – 7:30yh - Zoom

Mae ein diwydiant amaethyddol yn wynebu heriau unigryw dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. O’r ansicrwydd parhaus sy’n deillio o gytundebau masnachu ôl-Brexit, i bryder am gyflwyniad y mesuriadau NVZ dadleuol.

Gydag etholiadau Senedd 2021 yn brysur agoshau, ymunwch â Phlaid Cymru Ceredigion am drafodaeth gyhoeddus arbennig er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a chyfleoedd hyn sydd yn wynebu cefn gwlad dros y blynyddoedd nesaf.

Bydd yn gyfle i rannu eich barn a phryderon ar amrywiaeth o themâu a phynciau – o doriadau i gyllid fferm, i ddeddfwriaeth amgylcheddol, i ymosodiadau cŵn a throsedd gwledig. 

Fe fydd y panel yn cynnwys:

  • Ben Lake AS (Cadeirydd)
  • Elin Jones AS
  • Dafydd Llywelyn – Comisiynydd Heddlu Plaid Cymru dros Ddyfed-Powys
  • Cefin Campbell – Ymgeisydd rhanbarthol Plaid Cymru am etholiadau Senedd 2021

Bydd y noson yn cael ei chynnal ar y 3ydd o Fawrth 2021 am 7:30yh dros Zoom.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ac i dderbyn y linc, cwblhewch y ffurflen gofrestru.

Cyhoeddwyd gan ar ,

Ddoi di?