Amdanon ni

Roedd y 7 o Fai 2026, yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru ac i Blaid Cymru. Etholwyd Anna Nicholl, Kerry Ferguson, ac Elin Jones yn Aelodau o'r Senedd Plaid Cymru dros Ceredigion Penfro. 

Elin Jones

Mae gan Elin brofiad helaeth o wasanaethu Ceredigion fel Aelod o'r Senedd ers 1999. Bu'n Weinidog Amaeth, ac yn Lywydd ar y Senedd am y 10 mlynedd diwethaf. Elin yw Gweinidog Cyllid Llywodraeth Plaid Cymru, ac mae'n awyddus i barhau gyda'r gwaith o'ch cynorthwyo gyda materion lleol sy'n eich poeni.  

Kerry Ferguson

Mae Kerry yn berchennog busnes llwyddiannus ac yn gyn-faer Aberystwyth, ble mae'n byw. Kerry yw Dirprwy Lywydd Senedd Cymru, ac mae hi'n edrych ymlaen i weithio gydag Anna ac Elin ar achosion a materion lleol sy'n bwysig i chi.  

Anna Nicholl

Mae Anna yn byw ym mro ei mebyd yn Aberteifi. Cafodd Anna yrfa lwyddiannus ym myd polisi cyhoeddus yng Nghymru am dros 25 mlynedd, a bu'n gweithio gydag aelodau llywodraeth Plaid Cymru. Anna yw eich Aelod o'r Senedd bydd yn gallu eich cynrychioli ar lawr y Senedd.