Yn dilyn y newyddion fod Bute Energy wedi tynnu ei gynllun codi Fferm wynt Nant Ceiment yn ôl, uwchben Pencarreg, ger Llambed, mae Elin Jones AS nawr yn galw ar Green Gen i ddileu ei Gynllun Rhwydwaith Peilonau Dur Dyffryn Teifi.
Yn dilyn y cyhoeddiad am Nant Geiment, dywedodd Elin Jones:
‘Mae’n amser i Green Gen dynnu ei Chynllun Peilonau Dyffryn Teifi yn ôl. Gan na fydd tyrbinau yn cael eu hadeiladu yn Nant Ceiment, a bod gymaint o wrthwynebiad cryf i’r effaith byddai wrth adeiladu tyrbinau gwynt ymhellach i fyny yn Fynyddoedd y Cambrian, mae’r angen am beilonau dur dipyn yn llai. Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad Plaid Cymru yn dweud os byddwn yn cael ein ethol fel Llywodraeth Cymru ym mis Mai, byddai peilonau dellt-dur ar gyfer llinellau 132kv, fel un Dyffryn Teifi, yn cael eu gwahardd yng Nghymru.
Byddai raid i Green Gen adolygu neu dynnu ei gynllun Teifi-Tywi o dan Lywodraeth Plaid Cymru. Byddai polisi Plaid Cymru ddim ond yn caniatáu llinellau 132kv i gael eu tanddaearu neu osod ar bolion pren neu fach. Bydd angen adolygu cynlluniau fferm wynt Bute Energy hefyd, o dan fwriad Plaid Cymru i dynhau’r canllawiau ar gyfer effaith gronnus a chynyddu perchnogaeth gymunedol.
Mae digwyddiadau yn Iran yn dangos pa mor bwysig yw hi i ni ddatblygu ein hynni ein hunain yng Nghymru, ac i leihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil cyfnewidiol. Ond mae rhaid gwneud hyn mewn ffordd fydd modd i’n cymunedau fanteisio o ddatblygiad o’r fath, o ran yr ynni sy’n cael ei gynhyrchu a’r elw sy’n dod ohono. Bydd Plaid Cymru yn ail-ddylunio ein polisïau ynni fel bod ein cymunedau lleol yn elwa ac yn datblygu gwytnwch, yn hytrach na bod yn fonansa echdynnol, yn agored i unrhyw un.’